close
Neidio i'r cynnwys

Ystrad Mynach

Oddi ar Wicipedia
Ystrad Mynach
BERJAYA
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth19,204 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6419°N 3.2405°W, 51.64264°N 3.236114°W Edit this on Wikidata
Cod OSST145945 Edit this on Wikidata
Cod postCF82 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddBlaenau Gwent Caerffili Rhymni
Etholaeth y DUChris Evans (Llafur)
Map

Tref yng nghymuned Gelli-gaer, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cymru, yw Ystrad Mynach. Saif ar briffordd yr A472. Saif yng Nghwm Rhymni. Mae Caerdydd 18.4 km i ffwrdd o Ystrad Mynach ac mae Llundain yn 217.3 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 18 km i ffwrdd.

Cyn y Chwyldro Diwydiannol a dyfodiad y gwaith glo roedd yr ardal yn dir amaethyddol gyda nifer o ffermydd.[1] saif yng nghymuned Gelligaer.

Tarddiad yr enw

[golygu | golygu cod]

Ystyr "ystrad" yw "llawr" neu waelod dyffryn; mae'r "ach" ar y diwedd yn awgrymu tir gwlyb neu gors a cheir enghreifftiau gerllaw e.e. Llanbradach a Llancaiach. O'r geiriau Ystrad-Man-Ach y daw'r gair, felly, ac nid o'r gair Cymraeg "Mynach".[2] Cyn codi cloddiau pwrpasol yn y 1960au arferai'r dref gael cryn dipyn o lifogydd.

Adeiladau a hanes

[golygu | golygu cod]

Ceir yn y dref nifer o adeiladau'r cyngor lleol a Choleg Ystrad Mynach, coleg a sefydlwyd yn 1959 i hyfforddi ac ail hyfforddi glowyr lleol. Mae tua 12,000 ar gofrestr y coleg erbyn heddiw.

Mae Glofa Penallta ger y dref, sef y lofa olaf yn y cwm i gau. Ceir yma hefyd orsaf reilffordd a agorwyd yn 1890 a cheir hefyd traffont, cerflun i goffau'r etifeddiaeth ddiwydiannol, ysbyty cymunedol, nifer o ysgolion a thafarnau: y Cooper Arms a'r Royal Oak.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Geograph; adalwyd 14/08/2012
  2. Gelligaer Urban District Council (1959). The Gelligaer Story. Cyngor Dosbarth Gelligaer.
BERJAYA Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrdeistref Sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato