Haram
Gwedd
| Enghraifft o: | five decisions |
|---|---|
| Y gwrthwyneb | Halal, Fard |
| Cysylltir gyda | Udwan |
| Rhagflaenwyd gan | niyyah |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/047hp6 |
Mae Haram (Arabeg: حرام, trawsgrifiad Lladin: ħarām) yn air Arabeg sy'n llythrennol yn golygu "gwaharddedig".[1][2] Y gwrthwyneb i haram yw halal sy'n golygu caniateir.
Gellir ei ddefnyddio i gyfeirio at wybodaeth gysegredig sydd wedi'i chuddio rhag y bobl. Fodd bynnag, defnyddir y gair yn fwy cyffredin ar gyfer gweithred ddrwg a phechadurus y mae Islam yn ei gwahardd.
Yn y gyfraith Islamaidd, defnyddir y term i gyfeirio at unrhyw weithred sydd wedi'i gwahardd gan y Corân.
Enghreifftiau o haram
[golygu | golygu cod]Pan fydd Mwslim yn cyflawni gweithred haram yn fwriadol neu'n anfwriadol, fe'i hystyrir yn bechod ac yn groes i ddysgeidiaethau Islamaidd.[3] Yr enghreifftiau mwyaf amlwg ac adnabyddus o bethau sy'n dilyn rheolau haram Islam yw:[4]
- gwahanol gynhyrchion maethol, fel cig mochyn ac alcohol. Mae sgil-cynhyrchion porc fel gelatin hefyd yn cael eu hystyried gan lawer, ond nid pob un ohonynt, o ysgolheigion Mwslimaidd i fod yn haram.
- llifynnau[5] a dynnir o bryfed fel E-120 carmin (lliw fflamgoch) yn cael eu hystyried yn gyffredin yn haram. Mae fanila go iawn yn cael ei echdynnu gan ddefnyddio alcohol ac felly mae'n haram (mae fanila sych yn halal, fodd bynnag).
- cynnwys pob math arall o ymddygiad gwaharddedig, o godineb i gefnogi pŵer nad yw'n Fwslimaidd yn erbyn y Mwslimiaid yn achos rhyfel.
- mae talu neu dderbyn llog (gelwir yn riba) ac hap-chwarae neu gamblo (gelwir yn maysir) yn yr un modd yn haram.
- cred rhai bod offerynnau cerdd yn haram hefyd.[6]
- mae defnyddio neu greu cynnwys cyfryngau sy'n hyrwyddo anwedduster, trais neu anfoesoldeb yn haram. Mae hyn yn cynnwys cerddoriaeth, ffilmiau neu sioeau sy'n annog ymddygiad anfoesol, yn amharchu gwerthoedd crefyddol, neu'n portreadu gweithredoedd pechadurus fel rhai derbyniol neu ddifyr. Mae pornograffi yn haram.[3]
- mae ymddygiad personol yn chwarae rhan bwysig mewn dysgeidiaethau Islamaidd, ac mae gweithredoedd fel dweud celwydd, clebran, twyllo a dwyn wedi'u gwahardd yn glir.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- 'What is Haram? - Gwefan Halal Practitioner
- Halal vs Haram - Cwis syml yn esbonio'r gwahaniaethau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mohammad Taqi al-Modarresi (26 Mawrth 2016). The Laws of Islam (PDF) (yn Saesneg). Enlight Press. ISBN 978-0994240989. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2 Awst 2019. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2017.
- ↑ "haram adjective - Definition, pictures, pronunciation and usage notes". Oxford Advanced Learner's Dictionary. Oxford University Press. Cyrchwyd 26 Ebrill 2019.
- 1 2 "From Food to Behavior: What Haram Means in Everyday Life". Halal Practitioner. 27 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Definition of Halal". Halal Monitoring Committee UK. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2026.
- ↑ "llifyn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2026.
- ↑ "haram". Cambride Dictionary. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2026.
