close
Neidio i'r cynnwys

Carmin

Oddi ar Wicipedia
Carmin
BERJAYA
BERJAYA
Enghraifft o:math o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathanthraquinones Edit this on Wikidata
Lliw/iaucoch Edit this on Wikidata
Màs492.0903907 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₂₂h₂₀o₁₃ edit this on wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon Edit this on Wikidata
Dynodwyr
SMILESCc1c(c(=o)o)c(o)cc2c1c(=o)c1c(o)c(c3oc(co)c(o)c(o)c3o)c(o)c(o)c1c2=o edit this on wikidata
Freebase/M/01qml7 edit this on wikidata
CAS1390-65-4 edit this on wikidata
PubChem CID14950 edit this on wikidata
InChIInchi=1s/c22h20o13/c1-4-8-5(2-6(24)9(4)22(33)34)13(25)10-11(15(8)27)16(28)12(18(30)17(10)29)21-20(32)19(31)14(26)7(3-23)35-21/h2,7,14,19-21,23-24,26,28-32h,3h2,1h3,(h,33,34) edit this on wikidata
Rhif EC215-724-4 edit this on wikidata
ECHA100.014.295 edit this on wikidata
HMDBHmdb0030658 edit this on wikidata
QuoraCarmine edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Carmin – a elwir hefyd yn gochineal (pan gaiff ei echdynnu o'r pryf cochineal, sef, tarddiad y gair "coch"[1] yn y Gymraeg), echdyniad cochineal – yw pigment o liw coch llachar a geir o'r cymhlyg alwminiwm sy'n deillio o asid carminig.[2] Mae enwau cod penodol ar gyfer y pigment yn cynnwys coch naturiol 4, C.I. 75470, neu E120. Mae Carmin hefyd yn derm cyffredinol am liw coch dwfn iawn. Gelwir y lliw ein hun yn fflamgoch yn y Gymraeg.[3]

Mae'n lliw bwyd poblogaidd, a ddefnyddir mewn iogwrt, losin, gelatin, cig, a diodydd gan gynnwys sudd ffrwythau.[4]

Defnyddiwyd pryfed benywaidd Dactylopius coccus (cochineal) am eu gallu lliwio coch mor gynnar â 700 CC. Roedd gwareiddiadau Americanaidd (o gyfandir America) yn malu'r pryfed a oedd yn bresennol ar gacti i echdynnu'r carmin ynddynt. Defnyddiwyd pigment carmin yn helaeth gan wareiddiad yr Asteciaid i liwio tecstilau. Fe'i mewnforiwyd yn ddiweddarach i Ewrop yn ystod yr 16g.[5]

Ym marchnadoedd Ewrop, roedd gan Goron Sbaen fonopoli ar gochineal tan 1820 pan ddysgodd y Ffrancwyr eu tyfu. Yn ddiweddarach, creodd gwyddonwyr o'r Almaen a Phrydain liw coch synthetig a oedd yn cystadlu â charmin. Cyfrannodd y cyfuniad o'r ffactorau hyn at ddiwedd monopoli Sbaen a gostwng pris carmin yn sylweddol, gan ei wneud yn hygyrch i gynulleidfa ehangach.

Paratoi

[golygu | golygu cod]

I baratoi carmin, mae cyrff y pryfed wedi'u powdrio yn cael eu berwi mewn toddiant amonia neu sodiwm carbonad. Ar ôl gwahanu'r mater anhydawdd, mae'r echdyniad yn cael ei drin ag alwm i waddodi'r solid coch. Gelwir y gwaddod hwn yn "carmine lake" neu'n "crimson lake" yn Saesneg. Sicrheir purdeb lliw gan absenoldeb haearn. Gellir ychwanegu clorid stannous, asid sitrig, boracs, neu gelatin i addasu'r gwaddodiad. Mae'r lliw crimson traddodiadol yn cael ei effeithio nid yn unig gan asid carminig ond hefyd gan ddewis ei ïon halen metel chelating. Ar gyfer arlliwiau o borffor, ychwanegir calch at yr alwm.[6][7]

I gael 1 pwys (0.45 cilogram) o liw coch, mae angen 70,000 o bryfed cochineal.[8]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Dutton, LaVerne M. Cochineal: A Bright Red Animal Dye (Master's degree). Baylor University. Cyrchwyd November 13, 2010.
  • Greenfield, Amy Butler (2005). A Perfect Red: Empire, Espionage, and the Quest for the Color of Desire. New York: HarperCollins. ISBN 978-0-06-052275-9.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "coch". Geiriadur Prifysgol Cymru. 26 Gorffennaf 2026.
  2. Dapson, R. W.; Frank, M.; Penney, D. P.; Kiernan, J. A. (2007). "Revised procedures for the certification of carmine (C.I. 75470, Natural red 4) as a biological stain". Biotechnic & Histochemistry 82 (1): 13–15. doi:10.1080/10520290701207364. PMID 17510809.
  3. "carmine". Geiriadur yr Academi. 26 Gorffennaf 2026.
  4. "Carmine Market: Global Size, Demand, Share, Trends, Analysis, Growth and Forecast 2022-2027". MarketWatch (yn Saesneg). February 1, 2022. Cyrchwyd 29 March 2022.
  5. Schweppe & Roosen-Runge 1986, t. 255.
  6. "Important Dates in Fabric History". Time Line of Fabric Information. Threads In Tyme. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-08-23.Nodyn:Self-published inline
  7. "E-numbers: E120: Carmine, Carminic acid, Cochineal". Food-Info.net. Cyrchwyd 2013-10-04.
  8. Padilla & Anderson 2015, t. 82.