close
Neidio i'r cynnwys

Stiwartiaid

Oddi ar Wicipedia
Stiwartiaid
Enghraifft o:brenhingyff, teyrnach Edit this on Wikidata
Rhan oClan Stewart Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1371 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysClan Stewart o Appin Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddRobert II, brenin yr Alban Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas yr Alban Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01lkky edit this on wikidata
QuoraHouse-of-stuart edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Teulu brenhinol ar orsedd yr Alban, ac yn ddiweddarach ar orsedd Lloegr hefyd, oedd y Stiwartiaid. Daw'r enw teuluol o swydd Uchel Stiward yr Alban, yr hwn oedd yn gyfrifol am weinyddu tŷ'r brenin. Daliwyd y swydd yng nghanol y 11g gan Walter fitz Alan (1090–1177). Mabwysiadodd ei ddisgynyddion "Stewart" fel enw'r teulu.

Yr aelod cyntaf o'r teulu i esgyn i orsedd yr Alban oedd Robert II yn 1371. O'r dyddiad hwnnw ymlaen bu ei ddisgynyddion yn frenhinoedd a breninesau'r Alban, ac o 1603 Lloegr hefyd. Mabwysiadwyd y ffurf "Stuart", sillafiad Ffrangeg yr enw, gan Mari, brenhines yr Alban (teyrnasiad 1542–1567), a fagwyd yn Ffrainc.

Priododd James IV a Margaret Tudor, merch Harri VII, brenin Lloegr, ym 1503, gan gysylltu tai brenhinol yr Alban a Lloegr. Ar ôl i Elisabeth I, brenhines Lloegr, farw heb blant yn 1603, etifeddodd James VI o'r Alban orsedd Lloegr ac Iwerddon fel James I. Roedd y Stiwartiaid yn frenhinoedd a breninesau Prydain ac Iwerddon hyd farwolaeth y Frenhines Anne ym 1714, heblaw am gyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr rhwng 1649 a 1660.

Ar ôl i'r teulu golli'r orsedd, parhaodd disgynyddion James II am sawl cenhedlaeth i honni hawl iddi. Roedd eu cefnogwyr yn cael eu hadnabod fel Jacobitiaid.

Llinach frenhinol y Stiwartiaid

[golygu | golygu cod]
Enw Esgyn i'r orsedd Hyd Llinach
Brenhinoedd a breninesau'r Alban
Robert II22 Chwefror 137119 Ebrill 1390Nai David II
Robert III19 Ebrill 13904 Ebrill 1406Mab Robert II
James I4 Ebrill 140621 Chwefror 1437Mab Robert III
James II21 Chwefror 14373 Awst 1460Mab James I
James III3 Awst 146011 Mehefin 1488Mab James II
James IV11 Mehefin 14889 Medi 1513Mab James III
James V9 Medi 151314 Rhagfyr 1542Mab James IV
Mari, brenhines yr Alban14 Rhagfyr 154224 Gorffennaf 1567Merch James V
James VI
= James I, brenin Lloegr ar ôl 24 Mawrth 1603
24 Gorffennaf 1567
27 Mawrth 1625Mab Mari, brenhines yr Alban
Brenhinoedd a breninesau Lloegr a'r Alban
James I
= James VI o'r Alban
24 Mawrth 160327 Mawrth 1625Gor-or-ŵyr Harri VII, brenin Lloegr
Charles I27 Mawrth 162530 Ionawr 1649
(dienyddiwyd)
Mab James I
Charles II30 Ionawr 1649 (de jure);
2 Mai 1660 (de facto)
6 Chwefror 1685Mab Charles I. Gwaharddwyd gan y Senedd rhag cymryd yr orsedd yn ystod cyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr (1649–60), ond fe'i derbyniwyd yn frenin yn 1660.
James II
= James VII o'r Alban
6 Chwefror 168511 Rhagfyr 1688Mab Charles I, brawd Charles II. Cafodd ei ddiorseddu gan William III ar ôl y Chwyldro Gogoneddus. Bu farw yn 1701.
Mari II13 Chwefror 168928 Rhagfyr 1694Merch James II. Rheolodd ar y cyd â William III.
Anne8 Mawrth 17021 Awst 1714Merch James II, chwaer Mari II. A hithau heb blant, ar ôl iddi farw daeth brenhinllin y Stewartiaid i ben.