close
Neidio i'r cynnwys

Rhyngrwyd pethau

Oddi ar Wicipedia
Rhyngrwyd pethau
BERJAYA
Enghraifft o:cysyniad, technoleg, driver of Industry 4.0 Edit this on Wikidata
Mathsmart device, Internet of Everything Edit this on Wikidata
Yn cynnwysMQTT, internet of things protocol, IPv6, Advanced Message Queuing Protocol, cyfrifiadura cwmwl, 5G NR Edit this on Wikidata
Enw brodorolInternet of Things Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/02vnd10 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF59687 edit this on wikidata
QuoraInternet-of-things-iot-1 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
BERJAYA
Llun sy'n darlunio rhyngrwyd pethau

System lle mae dyfeisiau cyfrifiadurol, peiriannau mecanyddol a digidol, gwrthrychau, anifeiliaid neu bobl i gyd yn cydberthyn yw rhyngrwyd pethau[1] neu ryngrwyd y pethau. Mae gan y pethau hyn ddynodwyr unigryw (Saesneg: unique identifiers, UIDs) a'r gallu i drosglwyddo data dros rwydwaith heb angen rhyngweithio rhwng person a pherson neu berson a chyfrifiadur.[2][3][4][5]

Mae diffiniad rhyngrwyd pethau wedi esblygu ers i wahanol dechnolegau, dadansoddeg amser real, dysgu gan beiriannau, synwyryddion nwyddau a systemau wedi'u mewnblannu gydfeirio. Mae meysydd traddodiadol rhwydweithiau synwyryddion di-wifr, awtomatiaeth (gan gynnwys awtomatiaeth mewn cartrefi ac adeiladau eraill), systemau wedi'u mewnblannu, systemau rheoli ac eraill wedi cyfrannu at alluogi rhyngrwyd y pethau. Bydd defnyddwyr yn adnabod technoleg rhyngrwyd pethau gan amlaf yng nghyd-destun y "tŷ clyfar", sydd yn cynnwys dyfeisiau ac offer (er enghraifft, goleuadau, thermostatau, systemau a chamerâu diogelwch cartref) sy'n cefnogi un neu fwy o ecosystemau cyffredin ac sy'n gallu cael eu rheoli gan ddyfeisiau o fewn yr ecosystem honno, megis ffonau a seinyddion clyfar.

Mae pryder mawr gan rai ynghylch peryglon twf rhyngrwyd y pethau, yn enwedig o ran preifatrwydd a diogelwch, ac felly mae'r diwydiant a llywodraethau yn awr wedi dechrau edrych ar y pethau hyn.

Mae amcangyfrifon y bydd 200 biliwn o ddyfeisiau 200 yn cael eu cysylltu yn y dyfodol agos. Rhagwelir mai 80 biliwn o ddoleri fydd gwerth y farchnad.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. http://termau.cymru/#Rhyngrwyd%20Pethau&sln=cy
  2. Rouse, Margaret (2019). "internet of things (IoT)". IOT Agenda. Cyrchwyd 14 Awst 2019.
  3. Brown, Eric (20 Medi 2016). "21 Open Source Projects for IoT". Linux.com. Cyrchwyd 23 Hydref 2016.
  4. "Internet of Things Global Standards Initiative". ITU. Cyrchwyd 26 Mehefin 2015.
  5. Hendricks, Drew. "The Trouble with the Internet of Things". London Datastore. Greater London Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-06. Cyrchwyd 10 Awst 2015.
  6. Toptal - Cartref Cartref Smart: Domestigi'r Rhyngrwyd Pethau
BERJAYA Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato