Harz
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2,226 km² |
| Uwch y môr | 1,141 metr |
| Gerllaw | Oker, Innerste, Bode, Wipper, Oder, Selke |
| Yn ffinio gyda | Q23648986, Q23648984, Thuringian Basin (with surrounding plates), Lower Saxon Hills |
| Cyfesurynnau | 51.75°N 10.6333°E |
| Hyd | 110 cilometr |
| Cyfnod daearegol | Paleosöig |
![]() | |
| Deunydd | gwenithfaen, greywacke, llechfaen, calchfaen, gabbro |
Mynyddoedd yng nghanolbarth yr Almaen yw'r Harz, yn nhaleithiau ffederal Sachsen-Anhalt, Niedersachsen a Thüringen. Mae'r gadwyn tua 110 km o hyd a 30–40 km o led. Er nad ydynt yn uchel o'r cymharu a mynyddoedd y de, yma mae mynyddoedd uchaf rhan ogleddol yr Almaen. Y copa uchaf yw'r Brocken, 1,141 medr o uchder, sy'n enwog mewn traddodiad fel man cyfarfod gwrachod ac yn ymddangos yn y ddrama Faust gan Goethe.
Crewyd Parc Cenedlaethol yr Harz yn 2006 trwy uno dau barc cenedlaethol blaenorol.


Copaon
[golygu | golygu cod]- Brocken (1.141,1 m), Sachsen-Anhalt
- Heinrichshöhe (1.040 m), Sachsen-Anhalt
- Königsberg (1.035 m), Sachsen-Anhalt
- Wurmberg (971 m), Niedersachsen
- Bruchberg (927 m), Niedersachsen
- Achtermannshöhe (926 m), Niedersachsen
- Rehberg (893 m), Niedersachsen
- Auf dem Acker (866 m), Niedersachsen
- Sonnenberg (853 m), Niedersachsen
- Kleiner Winterberg (837 m), Sachsen-Anhalt
- Lärchenkopf (801 m), Niedersachsen
- Schalke (Harz) (762 m), Niedersachsen
- Abbenstein (756 m), Niedersachsen
- Bocksberg (727 m), Niedersachsen
- Jordanshöhe (727 m),Niedersachsen
- Wolfsklippen (723 m), Sachsen-Anhalt
- Stöberhai (720 m), Niedersachsen
Yn 2000, cyflwynwyd y lyncs i'r Parc Cenedlaethol ac mae wedi hen sefydlu ei hun yno gan ymderiddio i mewn i ecoleg yr ardal.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [Das Luchsprojekt Harz; http://www.luchsprojekt-harz.de/; adalwyd=22 Mawrth 2009]

