Dyfodol i'r Iaith
| Enghraifft o: | grŵp pwyso |
|---|---|
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Gwefan | https://www.dyfodol.net/ |
| Dynodwyr | |
Mudiad amhleidiol yw Dyfodol i'r Iaith a'i nod yw sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru a bod y Gymraeg yn parhau yn fater byw ar yr agenda wleidyddol. Mae'n fudiad pwyso a lobio ac yn gweithredu drwy ddulliau cyfansoddiadol yn unig ac yn dylanwadu ar Lywodraeth Cymru, Cynghorau Sir, y pleidiau gwleidyddol, arweinwyr cyrff cyhoeddus ac eraill i roi'r Gymraeg wrth galon eu polisïau a'u gweithgareddau.
Hanes a Chefndir
[golygu | golygu cod]Cychwynnwyd y mudiad mewn cyfarfod ym Mehefin 2012 a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gymraeg Tŷ Tawe, Abertawe. Roedd y bwrdd cychwynnol yn cynnwys Heini Gruffudd, Simon Brooks, Richard Wyn Jones, Robat Gruffudd, Emyr Lewis, Elin Wyn a Huw Edwards. Etholir swyddogion mewn cyfarfod cyffredinol blynyddol, lle gall unrhyw aelod fynegi barn a rhoi cynigion gerbron o ran ffocws a pholisïau'r mudiad.
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyhoeddus cyntaf y mudiad yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 gyda Beti George, Angharad Mair ac Emyr Lewis (bardd) yn annerch.
Y Bwrdd a Staff
[golygu | golygu cod]Cadeirydd presennol y mudiad yw Heini Gruffudd[1] ac fe gyflogir Prif Weithredwr, Dylan Bryn Roberts.[2] Ar y bwrdd (2021) mae Eifion Lloyd Jones, Iwan Edgar, Osian Rhys, Wyn Thomas, Cynog Dafis, Robat Gruffudd, Catrin Alun, Elaine Edwards a Heini Gruffudd. Bu Beti George, Angharad Mair, Elinor Jones, a Bethan Jones Parry’n llywyddion y mudiad yn eu tro.
Cyllido
[golygu | golygu cod]Mae’n fudiad annibynnol ac amhleidiol gyda’i unig incwm yn dod oddi wrth gyfraniadau a thâl aelodaeth unigolion a chwmnïau sy’n rhannu ei weledigaeth.
Ymgyrchu
[golygu | golygu cod]Ers ei sefydlu mae’r mudiad wedi ymgyrchu a dylanwadu o blaid:
- Sefydlu dwsin o Ganolfannau Cymraeg
- Sefydlu ail sianel radio boblogaidd
- Cael y Gymraeg yn rhan o’r broses Cynllunio Tai
- Sefydlu Canolfan Genedlaethol Cymraeg i Oedolion
- Rhoi pwyslais ar hyrwyddo’r Gymraeg yn gymunedol ac addysgiadol
- Sefydlu yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cyfannol mewn perthynas â’r Gymraeg
Mae Dyfodol i’r Iaith yn aelod o’r grŵp ymbarél Dathlu’r Gymraeg.
Yn 2019 cyhoeddodd y Mudiad Cynllunio Adferiad y Gymraeg, gan Cynog Dafis, sy’n nodi blaenoriaethau’r mudiad ym maes cynllunio iaith. Defnyddiwyd yr egwyddorion hyn pan gyhoeddwyd Troi Dyhead yn Realiti,[3] Gofynion Dyfodol i’r Iaith ar gyfer Senedd Cymru 2021–2026 a Gofynion Dyfodol i’r Iaith ar gyfer Senedd Cymru 2026–2030.[4]
Mae Dyfodol i’r Iaith am weld y Llywodraeth yn sefydlu Awdurdod Iaith hyd braich a fydd ag adnoddau digonol i lywio dyfodol y Gymraeg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pwy ydym ni | Dyfodol i'r Iaith". Cyrchwyd 24 Mehefin 2021.
- ↑ "Prif weithredwr newydd i fudiad Dyfodol i'r Iaith". BBC Cymru Fyw. 17 Hydref 2022. Cyrchwyd 22 Mai 2026.
- ↑ "Polisïau | Dyfodol i'r Iaith". Cyrchwyd 24 Mehefin 2021.
- ↑ "Gofynion Dyfodol i’r Iaith ar gyfer Senedd Cymru 2026–2030", cyrchwyd 21 Mai 2026
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- "Mudiad iaith newydd i ymgyrchu dros y Gymraeg", BBC Cymru Fyw, 16 Gorffennaf 2012
- "Mudiad Dyfodol i'r Iaith am droi dyhead yn realiti", BBC Cymru Fyw, 23 Tachwedd 2020
