arXiv
| Enghraifft o: | disciplinary repository, preprint server, open science tool, gwefan, cronfa ddata ar-lein, cronfa ddata lyfryddol |
|---|---|
| Crëwr | Paul Ginsparg |
| Awdur | Paul Ginsparg |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Iaith | Saesneg |
| Dechrau/Sefydlu | 14 Awst 1991 |
| Perchennog | Labordy Genedlaethol Los Alamos, Prifysgol Cornell |
| Prif bwnc | erthygl wyddonol |
| Yn cynnwys | arXiv ID, Computing Research Repository |
| Lleoliad yr archif | Unknown |
| Gweithredwr | Cornell University Library, Cornell Ann S. Bowers College of Computing and Information Science |
| Sylfaenydd | Paul Ginsparg |
| Aelod o'r canlynol | DataCite – International Data Citation Initiative e.V. |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Rhanbarth | Ithaca |
| Gwefan | https://arxiv.org |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09nzd |
Storfa ddigidol ar gyfer cyfnewid erthyglau gwyddonol yw arXiv,[1] sy'n cyflwyno canlyniadau ymchwil ym meysydd ffiseg, mathemateg, cyfrifiadureg, ystadegaeth, mathemateg ariannol, bioleg, peirianneg drydanol a gwyddor systemau, ac economeg. Mae'r papurau'n cael eu cymeradwyo i'w postio ar ôl eu cymedroli, er nad ydynt yn cael eu hadolygu gan gymheiriaid. Sefydlwyd arXiv.org ar 14 Awst 1991.[2] Roedd wedi cyrraedd dwy filiwn o bapurau erbyn diwedd 2021. Erbyn Tachwedd 2024 roedd cyflwyniadau wedi cyflawni cyfradd o 24,000 o erthyglau newydd y mis.
Mae'r gair "arXiv" yn cael ei ynganu fel "archif"—mae'r X yn cynrychioli'r llythyren Roeg chi ⟨χ⟩.
Ers Medi 2011 mae Llyfrgell Prifysgol Cornell wedi cymryd cyfrifoldeb gweinyddol ac ariannol am weithredu a datblygu arXiv.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Steele, Bill (Hydref 2012). "Library-managed 'arXiv' spreads scientific advances rapidly and worldwide". Ezra (yn Saesneg). Ithaca, Newydd Efrog: Prifysgol Cornell. t. 9. OCLC 263846378. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ionawr 2015.
- ↑ Vence, Tracy (29 Rhagfyr 2014), "One Million Preprints and Counting: A conversation with arXiv founder Paul Ginsparg" (yn en), The Scientist, http://www.the-scientist.com/?articles.view/articleNo/41677/title/Q-A--One-Million-Preprints-and-Counting
