Caffi
| Enghraifft o: | type of restaurant |
|---|---|
| Math | bwyty |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |


Er mai'r teitl café a ddefnyddir yn aml, gellir dadlau bod pwyslais wahanol ar y math o fwyty a elwir yn caffi (neu caff) a'r hyn a elwir yn unig café neu caffe. Gelwir caffis o'r fath, efallai â chariad neu dirmyg, yn greasy spoon caff neu caff. Mae caffi yn wahanol i'r arddull fwy Ewropeaidd o dŷ coffi neu far coffi.[1] Nid yw caffi Prydeinig fel arfer yn gweini alcohol,[2][3][4][5] mae, fel rheol, yn fusnes teuluol ac annibynnol, ac mae'n dueddol o fod yn rhatach. Ceir caffis ochr ffordd a arferai weini gyrrwyr loris, er bod rheini wedi prinhau gyda newid chwaeth a dyfodiad cafes a bwytai cadwyn mawr ar ochr hyd traffyrdd.
Darpariaeth
[golygu | golygu cod]Fel arfer, mae caffi traddodiadol Prydeinig yn cynnig bwyd wedi'i ffrio neu wedi'i grilio fel "brecwast draddodiadol" drwy'r dydd, a all gynnwys cyfuniad o gynhwysion fel wy wedi'i ffrio; bacwn, pwdin gwaed, tatws wedi ffrio, hash browns, ffa pôb, bara saim, tost, tomato wedi'i grilio, byrgyrs, selsig, madarch, a sglodion.[6] Gall frechdanau gyda chynhwysion poeth ac oer fod ar gael, fel brechdan bacwn neu selsig. Gall amrywiaeth o brydau wedi'u coginio eraill fod ar gael, fel pastai stêc ac aren, cinio rhost llawn, afu a nionod, neu seigiau pasta, gyda phwdinau Prydeinig fel pwdin wedi'i goginio fel crymbl afal a chwstard.[1]
Y prif ddiod mewn caffi fel arfer yw te, yn enwedig "te tramp" (llysenw ar gyfer mwg o de du cryf, fel te brecwast Saesnig, a weinir fel arfer gyda llaeth a siwgr ac fel arfer yn gadarn ac yn llawn blas gyda chymeriad bywiog a lliw coch tywyll). Fodd bynnag, gydag amser, mae natur a safon y coffi wedi newid a gwella gyda'r rhan fwyaf o gaffis yn defnyddio peiriannau espresso er mwyn dilyn chwaeth mwy arbenigol yr oes sydd ddim yn bodloni ar goffi parod.
Y Caffi 'traddodiadol' mewn diwylliant Cymraeg
[golygu | golygu cod]
Enghraiff cynnar o gân pop Cymraeg sy'n sôn am y caffi 'traddodiadol' yw Caffi Gaerwen gan y ddeuawd boblogaidd o'r 1960au a 70au cynnar, Tony ac Aloma.[7] Cana'r ddeuawd o Fôn am y caffi y 'Little Chef' oedd ar hyd yr A5 ym mhentref Gaerwen a'r staff, "Pat a Janis ac Elsi a Glen". Cymaint bu llwyddiant y gân fel y bu i'r newyddiadurwr Gwilym Owen o HTV ffilmio eitem am y caffi a'i staff rhai wythnosau wedi rhyddhau'r record.[8]
- Mae rhai sy'n licio troi allan
- mewn dillad neis i gael sgram
- a dewis hotel sydd yn syrfio
- tatw rhost a boiled ham
- Ond bodlon wyf fi yn y caffi
- mae pawb yn hapus a chlên
- yn llewys fy nghrys,
- caf wy, chips a phys
Portreadwyd bwyd ac awyrgylch y caffi traddodiadol yn y gân Sosej, Bîns, a Chips gan y grŵp pop Rocyn yn 1982.[9] Mae geiriau'r gân yn sôn mor anodd yw hi i'r canwr i "gadw ar y deiet" ac mae felly yn cael digon ar y deiet ac yn mynd "i'r caff" i fwynhau bwyta bwyd traddodiadol:
- I frecwast, rwy’n bwyta hanner wy, afal a choffi du
- Cinio: tomato a ounce o letis, cadw fe dan y mil calori
- Oh, mae’n anodd aros ar ddiet,
- Mae pob un yn dweud bod e’n rhwydd ond mae’n galed imi
- Felly mewn i fi i’r caff, sosej bins a chips, wehei!,
- Ie, mewn i fi i’r caff, sosej bins a chips, wehei!
Yn y fideo o'r gân gwelir y prif ganwr, Jim O'Rourke yn gorlenwi ei blât gyda'r 'brecwast traddodiadol' - sosej, bîns, a chips, mewn caffi traddodiadol.[10]
Ar yr albwm Sombreros yn y Glaw gan Anweledig mae'r gân Merch Coffi yn cyfeirio at "ewyn gwyn" (y coffi) a gwisg draddodiadol gweinyddwraig, sef "sgert ddu tyn a’i blows gwyn sidan".
Oriel
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Caffe - bwyty neu café 'Cyfandirol' sy'n arbenigo mewn coffi arbenigol wedi dylanwadu gan yr Eidal a gweini bwyd ysgafn
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cwis Caffis Cymru ar BBC Cymru Fyw (2018)
- Caffis Cymru Llyfr gan Lowri Haf Cooke a ffotograffa gan Emyr Young, gan Wasg Gomer 2016, ISBN-10 : 178562069X; ISBN-13 : 978-1785620690
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Smith, Duncan (13 February 2015). "Cafe culture: The survival of the traditional British 'caff'". BBC News. Cyrchwyd 10 December 2020.
- ↑ Take the Kids England, 3rd. Fullman, Joseph. New Holland Publishers, 1 June 2007. p. 21
- ↑ Britslang: An Uncensored A-Z of the People's Language, Including Rhyming Slang Puxley, Ray. Robson, 1 April 2005. p. 216
- ↑ Shorter Slang Dictionary. Fergusson, Rosalind; Partridge, Eric; Beale, Paul. Psychology Press, 1994
- ↑ "Definition of 'café'". collinsdictionary.com.
- ↑ We're British, Innit: An Irreverent A to Z of All Things British. Iain Aitch. HarperCollins UK, 1 October 2010
- ↑ "Caffi Gaerwen". Sianl Youtube Tony ac Aloma Topics. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Caffi Gaerwen - 1969". Archif ITC sydd ar Sianel Archif Ddarlledu Cymru Lyfrgell Genedlaethol Cymru. 18 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Sosej, Bîns, a Chips". Gwefan Fandom. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2026.
- ↑ "Rocyn - Sosej, Bîns, a Chips". Sianel Youtube Farout. Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2026.
