Georgeg
| Enghraifft o: | iaith naturiol, iaith lenyddol, iaith fyw |
|---|---|
| Math | Karto-Zan |
| Rhagflaenwyd gan | Old Georgian |
| Yn cynnwys | Adjarian dialect |
![]() | |
| Enw brodorol | ქართული ენა |
| Nifer y siaradwyr | |
| cod ISO 639-1 | ka |
| cod ISO 639-2 | kat, geo |
| cod ISO 639-3 | kat |
| Gwladwriaeth | Georgia, Twrci, Rwsia, Iran, Aserbaijan, Armenia |
| System ysgrifennu | yr wyddor Georgeg, Braille Georgeg, Asomtavruli, Nuskhuri, Mkhedruli |
| Dynodwyr | |
Iaith Gartfelaidd yw Georgeg (ქართული [kʰartʰuli]) a siaredir gan Georgiaid. Hi yw iaith swyddogol Georgia yn y Cawcasws. Mae ganddi ei hwyddor arbennig ei hun.
Perthynas â ieithoedd eraill
[golygu | golygu cod]Mae Georgeg yn perthyn i deulu'r ieithoedd Cartfeleg - a hi yw'r iaith fwyaf adnabyddus yn y teulu, gyda'r nifer uchaf o siaradwyr. Ac eithrio theorïau amheus, does dim cysylltiad genynnol wedi ei brofi rhwng yr ieithoedd hyn ag unrhyw deulu arall yn y byd. O blith y ieithoedd Cartfelaidd eraill, yr ieithoedd Zan (Mingreleg a Lazeg) sydd â'r berthynas agosaf at Sioreg; mae ymchwil yn awgrymu iddyn nhw ymwahanu tua 2700 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r iaith Sfaneg yn perthyn o bell hefyd, ond ymwahanodd Sfaneg a'r ieithoedd eraill oddeutu 4000 o flynyddoedd yn ôl.
Yr wyddor Sioraidd
[golygu | golygu cod]

| Llythyren | Trawsgrifiad swyddogol |
Trawsgrifiad IPA |
|---|---|---|
| ა | a | ɑ |
| ბ | b | b |
| გ | g | ɡ |
| დ | d | d |
| ე | e | ɛ |
| ვ | v | v |
| ზ | z | z |
| თ | t | tʰ |
| ი | i | i |
| კ | k’ | kʼ |
| ლ | l | l |
| მ | m | m |
| ნ | n | n |
| ო | o | ɔ |
| პ | p’ | pʼ |
| ჟ | zh | ʒ |
| რ | r | r |
| ს | s | s |
| ტ | t’ | tʼ |
| უ | u | u |
| ფ | p | pʰ |
| ქ | k | kʰ |
| ღ | gh | ɣ |
| ყ | q’ | qʼ |
| შ | sh | ʃ |
| ჩ | ch | t͡ʃʰ |
| ც | ts | t͡sʰ |
| ძ | dz | d͡z |
| წ | ts’ | t͡sʼ |
| ჭ | ch’ | t͡ʃʼ |
| ხ | kh | x |
| ჯ | j | d͡ʒ |
| ჰ | h | h |
Statws
[golygu | golygu cod]Georgeg yw iaith swyddogol Georgia. Yn Abchasia a De Osetia, mae'r sefyllfa'n wahanol, gyda'r llywodraethau sydd ohoni yn hyrwyddo Abchaseg Oseteg a Rwseg ar draul y Georgeg. Mae llywodraeth Abchasia yn honni hyrwyddo addysg yn Oseteg, ond mewn gwirionedd addysg cyfrwng Rwseg sydd ar gynydd yno.[1]
Siaredir Georgeg mewn rhannau o Iran megis ardal Fereydan ger Isfahan, ond nid oes gan yr iaith unrhyw fath o statws swyddogol yno.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Maria Gruzdeva ar ymylon Rwsia". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2021-09-18.

