Atlantis
| Math | ynys ffug, cyfandir chwedlonol, ynys chwedlonol, ynys ffuglennol |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | mytholeg Roeg, athroniaeth Groeg hynafol, llenyddiaeth Hen Roeg |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Ynys chwedlonol a grybwyllwyd a'i disgrifiodd gyntaf yng nghanol y 4ydd ganrif CC gan yr athronydd Platon yw Atlantis (Hen Roeg: Ἀτλαντὶς νῆσος, "Ynys Atlas""). Yn ôl Platon, sy'n trafod yr ynys yn ei weithiau Timaeus a Critias, roedd Atlantis yn bŵer llyngesol a oedd, gan ddechrau o'i phrif ynys a leolir "y tu hwnt i Golofnau Ercwlff," yn darostwng rhannau helaeth o Ewrop ac Affrica. Ar ôl ymosodiad aflwyddiannus ar Athen, suddodd yr ynys o'r diwedd i'r cefnfor tua 9600 CC o ganlyniad i drychineb naturiol o fewn "un diwrnod ac un noson anffodus".
Mae Platon yn sôn am Atlantis nid fel lle hanesyddol, ond fel enghraifft o fath o deyrnas sy'n israddol i'w wladwriaeth ddelfrydol.[1][2] Er gwaethaf ei fod o bwys bach yng ngwaith Platon, cafodd stori Atlantis effaith sylweddol ar lenyddiaeth a dychymyg diweddarach. Gellir dod o hyd i'w agwedd alegorïaidd yng ngweithiau iwtopaidd sawl awdur o'r Dadeni, megis y llyfrau Utopia (1516) gan Thomas More a New Atlantis (1626) gan Francis Bacon. Bu ymdrechion i brofi hanesyddoldeb Atlantis, yn enwedig yn y llyfr Atlantis: the Antediluvian World (1882) gan Ignatius L. Donnelly, esboniwr o theorïau ffug-wyddonol o'r Unol Daleithiau. Honnodd Madame Blavatsky fod yr athrawiaethau esoterig yn ei llyfr esoterig The Secret Doctrine (1888) wedi tarddu o Atlantis. Gwnaeth y syniad hwn o Atlantis fel gwareiddiad delfrydol coll ddod i'r amlwg mewn amrywiol ideolegau ymylol yn yr 20g, gan gynnwys Natsïaeth. Ond mewn ffuglen, yn enwedig mewn ffuglen wyddonol a ffantasi, y mae'r syniad o Atlantis coll wedi cael ei effaith fwyaf. Mae enghraifft gynnar nodedig i'w chael yn Vingt Mille Lieues sous les mers (""Ugain mil o ligau dan y môr", 1869–70), nofel gan Jules Verne, lle mae Capten Nemo yn ymweld ag adfeilion y deyrnas suddedig yn ei long danfor Nautilus. Ers hynny bu cruglwyth o nofelau, straeon byrion, nofelau graffig, ffilmiau a rhaglenni teledu sy'n cymryd rhyw agwedd ar chwedl Atlantis fel eu man cychwyn.
- Map o Atlantis o Mundus Subterraneus gan Athanasius Kircher (Amsterdam, 1669). Mae Atlantis yn ymddangos yng nghanol Cefnfor yr Iwerydd. (Mae'r map yn gwrthdroi'r confensiwn modern: mae'r de yn ymddangos ar y brig.)
- Map o Atlantis: the Antediluvian World (1882) gan Ignatius Donelly sydd i fod i ddangos hud a lled ymerodraeth Atlantis
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ R. Hackforth, "The Story of Atlantis: Its Purpose and Its Moral", Classical Review 58/1 (1944): 7–9
- ↑ Diskin Clay, "The Invention of Atlantis: The Anatomy of a Fiction", yn Proceedings of the Boston Area Colloquium in Ancient Philosophy 15, gol. John J. Cleary a Gary M. Gurtler (Leiden: E. J. Brill, 2000), tt.1–21
