close
Neidio i'r cynnwys

Wat

Oddi ar Wicipedia
Wat
Enghraifft o:uned fesur o bŵer, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol SI Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/09hl5 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF38851 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Uned safonol a ddefnyddir gan y gwyddonydd ydy wat neu watt sy'n cael ei ddynodi gan y symbol W. Mae'n mesur graddfa trawsnewidiad egni a chaiff ei ddiffinio fel un joule yr eiliad.

Diffiniad

[golygu | golygu cod]

Yn nhermau mecaneg pur, un watt ydy graddfa'r gwaith sydd wedi'i wneud pan fo cyflymder gwrthrych yn cael ei gadw ar un fetr yr eiliad yn erbyn egnio un newton o'r cyfeiriad arall.

  • Yn nhermau electromagneteg, fodd bynnag, un watt ydy cyfradd y gwaith a wneir pan fo un amp (A) o gerrynt yn llifo drwy gwahaniaeth potensial trydanol o un folt (V).

Gellir darganfod dau uned trawsnewid ychwanegol ar gyfer y Watt drwy ddefnydio'r hafaliad uchod a Deddf Ohm.

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Mae'r uned wedi'i henwi er anrhydedd y peiriannydd o'r Alban James Watt (1857–1894) a a ddatblygodd y cysyniad o farchnerth.

Megawat

[golygu | golygu cod]

Un miliwn (106) wat ydy Megawat. Gall ffatri fawr neu floc o fflatiau ddefnyddio un megawat ar drydan.