Taco Bell
Gwedd
| Enghraifft o: | cadwyn o dai bwydydd parod |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 21 Mawrth 1962 |
| Perchennog | Yum! Brands |
| Yn cynnwys | Taco Bell Cantina |
| Sylfaenydd | Glen Bell |
| Gweithwyr | 175,000 |
| Rhiant sefydliad | Yum! Brands |
| Ffurf gyfreithiol | cwmni cyhoeddus |
| Cynnyrch | taco, burrito, nachos, quesadilla, chalupa |
| Pencadlys | Irvine |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://www.tacobell.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09cg6 |
Cadwyn ryngwladol o fwytai bwyd cyflym yw Taco Bell. Fe'i sefydlwyd yn 1962 yn Downey, Califfornia, Unol Daleithiau America, gan Glen Bell (1923–2010). Mae'r bwytai'n gweini amrywiaeth o fwydydd wedi'u hysbrydoli gan Fecsico, gan gynnwys tacos, burritos, quesadillas, a nachos. Yn 2023 gwasanaethodd Taco Bell ddau biliwn o gwsmeriaid bob blwyddyn, mewn 8,212 o fwytai. Mae'r mwyafrif llethol o'r bwytai'n cael eu gweithredu fel masnachfreintiau gan dalwyr trwydded.
Agorwyd cangen gyntaf Taco Bell Cymru yng Nghaerdydd 2 Mawrth 2020. Erbyn 2024 roedd mwy na 130 o fwytai Taco Bell yn y Deyrnas Unedig.
