Propoffol
| Delwedd:Propofol Structural Formulae V.1.svg, Propofol.svg | |
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | cyfansoddyn cemegol |
| Màs | 178.136 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₁₂h₁₈o |
| Enw WHO | Propofol |
| Clefydau i'w trin | Poen, dementia cynyrfiadol, cyflwr epileptig, deliriwm lledlym |
| Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
| Gwneuthurwr | Pfizer |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02hf5w |
| CAS | 2078-54-8 |
| PubChem CID | 4943 |
| ChEBI | 44915 |
| ChEMBL | Chembl526 |
| ChemSpider | 4774 |
| UNII | Yi7vu623sf |
| ATC | N01ax10 |
| KEGG | D00549 |
| MeSH | D015742 |
| Llawlyfr Ligand | 5464 |
| Rhif EC | 218-206-6 |
| Cofrestr Beilstein | 1866484 |
| Drugbank | Db00818 |
| ECHA | 100.016.551 |
| HMDB | Hmdb0014956 |
| PDB | 1e7a, 3f33, 3p50 |
| RxNorm CUI | 8782 |
| UMLS CUI | C0033487 |
| NDF-RT | N0000147620 |
| Quora | Propofol |
Mae propoffol, sy’n cael ei farchnata dan yr enw Diprivan ymysg eraill, yn feddyginiaeth sy’n effeithiol am gyfnod byr sy’n arwain at lai o ymwybyddiaeth ac at anghofio digwyddiadau.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₂H₁₈O. Mae propoffol yn gynhwysyn actif yn Diprivan.
Defnydd
[golygu | golygu cod]Defnydd meddygol
[golygu | golygu cod]Mae ei ddefnydd yn cynnwys cychwyn a chynnal anesthesia cyffredinol, tawelu ar gyfer oedolion sy'n cael eu hawyru'n fecanyddol, a thawelu gweithdrefnol. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer cyflwr epileptig os nad yw meddyginiaethau eraill wedi gweithio. Fe'i rhoddir trwy chwistrelliad i mewn i wythïen. Mae ei brif effaith yn cymryd tua dau funud i ddigwydd ac yn para am bump i ddeng munud[2].
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Defnydd ar gyfer dienyddiad
[golygu | golygu cod]Penderfynodd Goruchaf Lys Missouri ganiatáu defnyddio propoffol i ddienyddio carcharorion a oedd wedi eu condemnio i farwolaeth. Fodd bynnag, ataliwyd y dienyddiad cyntaf drwy weinyddu dos marwol o propoffol ar 11 Hydref 2013 gan y llywodraethwr Jay Nixon yn dilyn bygythiadau gan yr Undeb Ewropeaidd i gyfyngu ar allforio'r cyffur o gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw. Roedd y Deyrnas Unedig eisoes wedi gwahardd allforio meddyginiaethau neu feddyginiaethau milfeddygol oedd a phropoffol yn eu cynhwysion i'r Unol Daleithiau[3].
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys cyfradd calon afreolaidd, pwysedd gwaed isel, teimlad o losgi ar safle'r chwistrelliad, a stopio anadlu. Gall sgil effeithiau difrifol eraill gynnwys ffitiau, heintiau, caethiwed a syndrom trwyth propoffol gyda defnydd hirdymor. Mae'n ymddangos ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ond nid yw wedi cael ei astudio'n dda yn y grŵp hwn. Fodd bynnag, ni chaiff ei argymell ar gyfer toriad Cesaraidd. Gan nad yw'n feddyginiaeth poen gellir defnyddio opioidau fel morffin gyda propoffol. Gellir ailddechrau bwydo ar y fron cyn gynted ag y bydd y fam wedi gwella'n ddigonol o'r anesthesia.[4]
Enwau
[golygu | golygu cod]Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Propoffol, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd propofol ei ddarganfod ym 1977. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Pubchem. "Propoffol". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Drugs.Com Propofol adalwyd 28 mawrth 2018
- ↑ Al Jazeera After EU threats, Missouri halts execution by propofol injection adalwyd 28 Mawrth 2018
- ↑ NICE / BNF PROPOFOL adalwyd 28 Mawrth 2018
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
