Pamplona
| Math | bwrdeistref Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Pamplona city |
| Poblogaeth | 209,094 |
| Sefydlwyd |
|
| Pennaeth llywodraeth | Enrique Maya Miranda, Joseba Asirón, Enrique Maya Miranda, Yolanda Barcina, Cristina Ibarrola, Joseba Asirón |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Saturnin |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Basgeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Pamplona metropolitan area, Mixed Zone of Navarre |
| Sir | Basin of Pamplona, Nafarroa Garaia, Iruñeko merindadea |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 25.1 km² |
| Uwch y môr | 450 metr |
| Gerllaw | Arga, Sadar, Elorz |
| Yn ffinio gyda | Ansoáin-Antsoain, Ezcabarte, Burlada/Burlata, Villava/Atarrabia, Valley of Egüés, Aranguren, Galar, Cendea de Cizur, Zizur Mayor/Zizur Nagusia, Barañáin, Olza, Orkoien, Berrioplano/Berriobeiti, Berriozar |
| Cyfesurynnau | 42.8167°N 1.65°W |
| Cod post | 31001–31016 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Pamplona |
| Pennaeth y Llywodraeth | Enrique Maya Miranda, Joseba Asirón, Enrique Maya Miranda, Yolanda Barcina, Cristina Ibarrola, Joseba Asirón |
![]() | |
Pamplona (Basgeg: Iruña neu Iruñea) yw prifddinas cymuned ymreolaethol Nafarroa Garaia yng Gwlad y Basg yng ngwladwriaeth Sbaen. Yn hanesyddol, ystyrir Pamplona gan y mwyafrif[angen ffynhonnell] fel prifddinas Gwlad y Basg (Euskal Herria).
Saif ar Afon Arga, a 209,094 (2025) yw poblogaeth y ddinas. Yn y cyfnod Rhufeinig, tyfodd pentref Iruñea i fod yn ddinas Rufeinig "Pompaelo", wedi ei henwi ar ôl Pompeius Magnus, a'i sefydlodd yn 74 CC. Cafodd ei chipio gan y Mwslimiaid yn yr 8g, ac yn 778 dinistriwyd y muriau gan Siarlymaen ychydig cyn Brwydr Ronsyfal. Yn ail hanner y 9g ffurfiwyd Teyrnas Pamplona.
Mae Pamplona yn enwog am y Sanferminak, gŵyl sy'n cael ei chynnal rhwng 6 ac 14 Gorffennaf i anrhydeddu Sant Fermín, nawdd-sant Nafarroa. Y rhan enwocaf o'r ŵyl yw'r "rhedeg gyda'r teirw".
Y ddinas yw diwedd ail ran y Camino de Santiago o Ronsyfál i Santiago de Compostela.

