Numantia
| Math | Celtic archaeological site, celtiberian town, bryngaer |
|---|---|
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Celtiberia |
| Sir | Soria Province, Garray, Hispania Tarraconensis, Celtiberia |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 1,074 metr |
| Cyfesurynnau | 41.809392°N 2.444447°W |
| Cyfnod daearegol | Oes yr Haearn, yr Ymerodraeth Rufeinig, Gweriniaeth Rhufain |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | Rhufain hynafol, Oes yr Haearn |
| Statws treftadaeth | bien de interés cultural |
| Manylion | |


Dinas yng ngogledd Sbaen oedd Numantia (Sbaeneg:Numancia).
Mae ansicrwydd i ba lwyth yr oedd trigiolion y ddinas yn perthyn; dywed Plinius yr Hynaf ei bod yn perthyn i'r Pelendones, ond yn ôl Strabo a Ptolemi perthynai i'r Arevaci, llwyth Celtiberaidd. Bu pobl Numantia yn ymladd yn erbyn Gweriniaeth Rhufain am flynyddoedd, a chawsant nifer o fuddugoliaethau. Yn 137 CC, ildiodd byddin o 20,000 o Rufeiniaid iddynt.
Dechreuodd y gwarchae olaf yn 134 CC, dan y Conswl Rhufeinig Publius Cornelius Scipio Aemilianus, gyda byddin o 30,000 o filwyr. Ymhlith ei swyddogion roedd Gaius Marius. Wedi gwarchae o wyth mis, penderfynodd y rhan fwyaf o'r trigolion ladd eu hunain yn hytrach nad ildio i'r Rhufeiniaid, a dim ond ychydig gannoedd a ildiodd. Wedi cipio Numantia, roedd y rhan fwyaf o Sbaen dan awdurdod Rhufain, heblaw y rhan fwyaf gogleddol.
Am ganrifoedd roedd y lleoliad ar goll, ond yn 1860 cafodd Eduardo Saavedra hyd i'r safle, ger Garray yn nhalaith Soria. Dechreuodd cloddio archaeolegol yn 1906, ac mae'n parhau; gellir gweld llawer o'r darganfyddiadau yn Museo Numantino yn Soria.
Mae Numantia yn symbol yn Sbaen tebyg i Masada yn Israel, Ysgrifennodd Miguel de Cervantes (awdur Don Quixote) ddrama gyda'r teitl La Numancia am y frwydr olaf.

