Modfedd
Gwedd
| Enghraifft o: | uned mesur hyd |
|---|---|
| Rhan o | system of measures in the Grand Duchy of Lithuania, Russian system of units, Unedau imperial |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03th6 |
| Quora | Inches |
Defnyddir y mesuriad modfedd yn y drefn unedau imperialaidd o fesur. Ceir 36 modfedd mewn llathen a 12 modfedd mewn troedfedd.
Fe'i defnyddir yn Unol Daleithiau America,[1] Canada a gwledydd Prydain. O 1 Gorffennaf 1959 ymlaen, cafodd y mesur "llathen" ei ddiffinio gan UDA a'r Gymanwlad i fod yn union 0.9144 metr.[2] O ganlyniad, y diffiniad o fodfedd yw 25.4 milimetr.
Y symbol rhyngwladol o'r fodfedd ydy in ac ar adegau defnyddir y symbol dyfynodau: ". Fel y rhan fwyaf o ieithoedd, mae'n bur debyg fod y gair Cymraeg "modfedd" yn tarddu o'r gair "bawd"[3].
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Corpus of Contemporary American English (Brigham Young University, adalwyd Rhagfyr 2011)
- ↑ Lasater, Brian (31 Ionawr 2008). The Dream of the West, Pt II. Lulu.com. t. 256. ISBN 978-1-4303-1382-3. Cyrchwyd 14 Mai 2012.
- ↑ Dulliau Mesur y Cymry

