Memrwn
| Math | croen, cynnyrch anifeiliaid |
|---|---|
| Deunydd | buckskin, calfskin |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05tdm |
| Thesawrws y BNCF | 9789 |

Deunydd i ysgrifennu arno a wneir o groen, yn enwedig croen dafad neu afr neu groen llo wedi ei drin yn arbennig, yw memrwn (o'r gair Lladin membrum).
Arferid defnyddio memrwn yn yr Oesoedd Canol ar gyfer ysgrifennu llawysgrifau a hefyd i'w rhwymo. Roedd yn ddeunydd drud iawn. Byddai angen croen praidd bychan o ddefaid ar gyfer un llawysgrif. Mae'r rhan fwyaf o'r llawysgrifau Cymreig cynnar yn llawysgrifau memrwn, yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Aneirin.
Disodlwyd memrwn gan bapur yn y cyfnod modern cynnar. Mae'n dal i gael ei ddefnyddio weithiau heddiw ar gyfer argraffiadau arbennig iawn neu, yn llawer mwy cyffredin, i rwymo llyfrau cain. Ceir math arbennig o bapur a wneir â chotwm a elwir yn 'bapur memrwn', ond papur ydyw nid memrwn go iawn.
