close
Neidio i'r cynnwys

Machlud

Oddi ar Wicipedia
BERJAYA
Machlud yr haul yn Aberaeron
Machlud
BERJAYA
Enghraifft o:adeg o'r dydd, ffenomen seryddol Edit this on Wikidata
Mathobjectset Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcodiad yr haul Edit this on Wikidata
Lliw/iaumachlud Edit this on Wikidata
Rhan odiwrnod Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gannoswaith Edit this on Wikidata
Olynwyd gannos, afterglow, dusk Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y machlud yw diflaniad dyddiol yr Haul dros y gorwel o ganlyniad i gylchdro'r Haul. Wrth edrych arno o'r Cyhydedd, mae Haul y cyhydnos yn machludo yn union yn y gorllewin yn y gwanwyn a'r hydref. Wrth edrych arno o'r lledredau canol, mae Haul yr haf yn machludo i ogledd-orllewin Hemisffer y Gogledd, ond i dde-orllewin Hemisffer y De.

Mae amser y machlud yn cael ei ddiffinio mewn seryddiaeth fel y foment y gwelir cymal uchaf yr Haul yn diflannu ar y gorwel. Ger y gorwel, mae plygiant atmosfferig yn achosi i belydrau'r haul gael eu hystumio i'r fath raddau fel bod y ddisg solar eisoes tua un diamedr o dan y gorwel pan welir machlud.

Mae'r machlud yn wahanol i'r cyfnos, sy'n cael ei rannu'n dair rhan: y cyntaf yw'r cyfnos sifil, sy'n dechrau unwaith y mae'r haul wedi diflannu y tu hwnt i'r gorwel, ac yn parhau tan y bydd wedi gostwng 6 gradd o dan y gorwel; yr ail yw'r cyfnos morwrol, rhwng 6 a 12 gradd o dan y gorwel; a'r trydydd yw'r cyfnos seryddol, sef y cyfnod pan fydd yr Haul rhwng 12 ac 18 gradd o dan y gorwel.[1] Y llwyd-wyll yw rhan olaf un y cyfnos seryddol, a'r foment dywyllaf o'r cyfnos cyn nos.[2] Mae'r nos yn dechrau pan fydd yr Haul yn cyrraedd 18 gradd o dan y gorwel ac nad yw'n goleuo'r awyr mwyach.

Nid yw lleoliadau i'r gogledd o Gylch yr Arctig ac i'r de o Gylch yr Antarctig yn cael machlud na gwawr yn ei gyfanrwydd am o leiaf un diwrnod y flwyddyn, pan fydd y diwrnod pegynol neu'r noson begynol yn parhau yn ddi-dor am 24 awr. Lleoliadau ar ledred o fwy na tua 72.5 gradd yn unig sy'n cael noson begynol gyflawn.

Mae'r machlud yn creu amodau atmosfferig unigryw fel lliwiau oren a choch dwys yr Haul a'r awyr o'i amgylch.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Diffiniad o Adran Cymwysiadau Seryddol yr USNO". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-14. Cyrchwyd 2016-06-17.
  2. "Diffiniad llawn o llwyd-wyll (dusk)".