Ceuta
| Math | dinas ymreolaethol Sbaen |
|---|---|
| Prifddinas | Ceuta |
| Poblogaeth | 83,595 |
| Pennaeth llywodraeth | Juan Jesús Vivas |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2, Africa/Ceuta |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Daniele Fasanella |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Sbaen y tu allan i Benrhyn Iberia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 18.5 km² |
| Uwch y môr | 10 ±1 metr |
| Gerllaw | Y Môr Canoldir |
| Yn ffinio gyda | Belyounech, Tangier-Tetouan-Al Hoceima |
| Cyfesurynnau | 35.88667°N 5.3°W |
| Cod post | 51000–51999 |
| ES-CE | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Assembly of Ceuta |
| Pennaeth y Llywodraeth | Juan Jesús Vivas |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Punic people |

Mae Ceuta yn diriogaeth Sbaenaidd 19 km², sy'n rhan o ranbarth Andalucía yn Sbaen, ar arfordir Gogledd Affrica. Mae'n wynebu'r Môr Canoldir i'r gogledd ac yn ffinio â Moroco (rhanbarth Tanger-Tétouan) yn y de. Mae gan Ceuta, ynghyd â'r dref o'r un enw sy'n brifddinas iddi (Arabeg Sebta o'r Lladin Septem), boblogaeth o 70,000.
Yn ôl traddodiad, ymwelodd Ercwlff (Heracles) ac Odysseus (Ulusses) yma. Roedd yn borthfa filwrol dan y Rhufeiniaid. Fe'i rheolwyd gan yr Ymerodraeth Fysantaidd ar ôl hynny ac yna yn 931 fe'i meddianwyd gan reolwyr Umayyad newydd Andalucía. Roedd y bardd Ibn Sahl o Sevilla yn Ceuta rhwng 1248 a 1250 yng ngwasanaeth y llywodraethwr lleol. Cipiodd Siâms I o Aragon y ddinas yn 1309 ac yn 1415 fe'i cipwyd gan Portiwgal. Rhwng 1580 a 1640 roedd dan reolaeth Sbaen a Phortiwgal gyda'i gilydd (roedd y ddwy wlad hynny wedi'u huno yn y cyfnod hwnnw). Pan dorrodd Portiwgal allan o'r undeb meddiannodd y Sbaenwyr y diriogaeth.
Treuliodd y marchog Almaenig Jörg von Ehingen tua saith mis yn Ceuta yn 1455-1456 pan fu'r dref gaerog dan warchae gan y Morociaid.
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla

