Arsenal F.C.
![]() | ||||
| Enw llawn | Arsenal Football Club (Clwb Pêl-droed Arsenal) | |||
|---|---|---|---|---|
| Llysenw(au) | The Gunners | |||
| Sefydlwyd | 1886 (fel Dial Square) | |||
| Maes | Stadiwm Emirates, Llundain | |||
| Cynghrair | Uwchgynghrair Lloegr | |||
|
| ||||
Clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr yw Arsenal Football Club (llysenw: The Gunners, "Gwnwyr"), a elwir yn gyffredin yr Arsenal neu Arsenal, sydd wedi'i leoli yn Stadiwm Emirates, yn Holloway un o faestrefi dinas Llundain sydd tua 3.3 milltir (5.3 km) i'r gogledd o Charing Cross.
Hyd at 2016 roedd y clwb wedi ennill Cwpan Loegr 12 gwaith, uwch adran Lloegr 13 gwaith, Cwpan Cynghrair Lloegr dwyaith, a Tharian Cymuned Lloegr 14 gwaith.
Arsenal oedd y clwb cyntaf yn ne Lloegr i ymuno gyda Cynghrair Pêl-droed Lloegr, a hynny yn 1893. Erbyn 1904 roedden nhw wedi cyrraedd yr adran uchaf (yr adeg honno) sef yr 'Adran Gyntaf' (First Division). Ers hynny, nhw yw'r ail dîm uchaf o ran pwyntiau.[1] Gan ond disgyn o'r adran uchaf unwaith yn unig, ym 1913, maent yn parhau â'r rhediad hiraf yn yr adran uchaf.[2] Yn y 1930au roedd Arsenal yn bencampwyr yr uwch adran ar bum achlysur, ac ennillon nhw Gwpan Lloegr ddwywaith. Wedi'r Ail Ryfel Byd fe enillon nhw un Gwpan Lloegr arall a dau Bencampwriaeth. Yn 1970–71 fe enillon nhw'r Dwbwl cyntaf: y gynghrair a Chwpan Lloegr yn yr un tymor. Rhwng 1988 a 2005 fe enillon nhw'r gynghrair bum gwaith a Chwpan Lloegr bum gwaith - gan gynnwys y Dwbwl ddwywaith. Ar ddiwedd 20g nhw oedd deiliaid y safle uchaf o ran cyfartaledd safleoedd cynghrair.[3]
Prif gystadleuwyr Arsenal yw Tottenham Hotspur, ac maen nhw'n ymladd yn erbyn Darbi Gogledd Llundain. Mae Arsenal hefyd yn cystadlu â Chelsea, Manchester City a Manchester United.[4]
Chwaraewyr
[golygu | golygu cod]Chwaraewyr Cymreig
[golygu | golygu cod]Mae nifer o Gymry wedi chwarae i Arsenal ar hyd y blynyddoedd.[5]
| Chwaraewr | Ymunodd | Gadawodd |
|---|---|---|
| Walley Barnes | 1943 | 1956 |
| Dave Bowen | 1950 | 1959 |
| Mel Charles | 1959 | 1962 |
| Norman Coe | 1958 | 1960 |
| Horace Cumner | 1935 | 1946 |
| Ray Daniel | 1946 | 1953 |
| Paul Davies | 1969 | 1972 |
| Arfon Griffiths | 1995 | 1997 |
| Mal Griffiths | 1935 | 1938 |
| John Hartson | 1995 | 1997 |
| Bryn Jones | 1938 | 1949 |
| Leslie Jones | 1937 | 1946 |
| Jack Kelsey | 1949 | 1963 |
| Dan Lewis | 1929 | 1931 |
| Andy Marriot | 1988 | 1989 |
| Stan Morgan | 1959 | 1962 |
| Peter Nicholas | 1981 | 1983 |
| Don Oakes | 1946 | 1956 |
| Aaron Ramsey | 2008 | 2019 |
| John Roberts | 1969 | 1972 |
| Tim Rogers | 1935 | 1936 |
| Eric Tapscott | 1953 | 1958 |
| Tom Walley | 1964 | 1967 |
| Rhys Weston | 1999 | 2000 |
| Rhys Wilmot | 1980 | 1984 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "English Premier League : Full All Time Table". statto.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-10. Cyrchwyd 21 Ionawr 2016.
- ↑ Ross, James; Heneghan, Michael; Orford, Stuart; Culliton, Eoin (23 Mehefin 2016). "English Clubs Divisional Movements 1888-2016" [Symidiad clwbiau adrannol Saeson 1888-2016]. www.rsssf.com. Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-05. Cyrchwyd 5 Awst 2016.
- ↑ Hodgson, Guy (17 Rhagfyr 1999). "Football: How consistency and caution made Arsenal England's greatest". The Independent (yn Saesneg). London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2016. Cyrchwyd 13 Mai 2016.
- ↑ Coggin, Stewart. "The North London derby" (yn Saesneg). Uwch Gynghrair Lloegr. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Awst 2008. Cyrchwyd 7 Medi 2008.
- ↑ "Arsenal F.C. – Foreign players from Wales" (yn Saesneg). Transfermarkt.

